Gwaith yng Nghymru

  • Mae gan Gymru ei Llywodraeth a’i Senedd ei hun sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch iechyd, addysg, bwyd a llawer mwy o bethau pwysig.
  • Mae Arweinydd Cymru yn cynrychioli’r elusen yng Nghymru.
  • Mae dau aelod o staff canolog yn gweithio yn y swyddfa yng Nghymru yn helpu aelodau ledled y DU.

Nid yw ein presenoldeb yng Nghymru erioed wedi bod yn bwysicach.

Mae’r meysydd iechyd, addysg, bwyd a gwasanaethau lleol wedi’u datganoli i Senedd Cymru. Gall y penderfyniadau a wneir yma, boed ynghylch cael bwydydd heb glwten ar bresgripsiwn neu sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu yn yr ysgol, gael effaith enfawr ar fywydau pobl â chlefyd seliag ledled Cymru.

Dyna pam rydym yn gweithio gyda gwleidyddion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, partneriaid masnachol a’n haelodau i sicrhau bod lles y rhai â chlefyd seliag yn ganolog i'r broses gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’n pum grŵp lleol a thua 3,000 o aelodau i roi cymorth a chyngor i’r rhai â chlefyd seliag yn eu cymunedau lleol yn ogystal ag ymgysylltu â busnesau yng Nghymru i sicrhau bod mwy o gynhyrchion heb glwten ar gael.

CymraegGweld y dudalen hon yn Saesneg/ view page in English

Yng Nghymru, rydym yn...

Diogelu’ch presgripsiynau ar gyfer bwydydd heb glwten 

Os oes gennych glefyd seliag, mae gennych yr hawl i gael bwydydd sylfaenol heb glwten ar bresgripsiwn yng Nghymru. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r cymorth hwn, ac rydym yn parhau i weithio’n galed i'w ddiogelu. Gan gadw hyn mewn cof, rydym wedi bod yn cefnogi cynllun treialu presgripsiynu bwydydd heb glwten yn y gorllewin sy’n ceisio gwella’r gallu i gael bwydydd heb glwten drwy ddefnyddio cerdyn y gellir ychwanegu ato. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein helpu i wella ein dealltwriaeth o'r heriau sy’n gysylltiedig â chael bwydydd heb glwten ar bresgripsiwn er mwyn i ni allu dyfeisio dulliau amgen er budd ein cymuned o bobl â chlefyd seliag a’r GIG.

Sicrhau bod cymorth gwell ar gael i blant â chlefyd seliag yn yr ysgol

Mae Coeliac UK wedi bod yn gweithio i wella’r cymorth sydd ar gael i blant â chlefyd seliag mewn ysgolion yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cadeirio'r Gynghrair Gofal mewn Ysgolion, grŵp sy’n cynnwys 20 o weithwyr iechyd proffesiynol ac elusennau sy’n ymgyrchu i sicrhau bod cymorth gwell ar gael i blant ag anghenion meddygol mewn ysgolion. Oherwydd y gwaith hwn, gwnaethom helpu i ddiogelu plant â chlefyd seliag mewn ysgolion yng Nghymru yn fwy drwy sicrhau bod canllawiau i ysgolion yn cael eu diweddaru a bod diwygiad hanfodol yn cael ei wneud i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018.

Sicrhau bod Senedd Cymru’n clywed eich llais

Mae Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Glefyd Seliag a DH wedi’i ffurfio o Aelodau o'r Senedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o Coeliac UK. Rhun Ap Iorwerth AS yw cadeirydd y grŵp, ac mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn dod o hyd i atebion ar ffurf polisi i broblemau sy’n wynebu pobl â chlefyd seliag yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau’n rheolaidd yn y Senedd er mwyn codi ymwybyddiaeth Aelodau'r Senedd o'r cyflwr.

Cynrychioli’r gymuned o bobl â chlefyd seliag yn y cyfryngau

Rydym yn codi ymwybyddiaeth o glefyd seliag yn rheolaidd yn y cyfryngau drwy roi cyfweliadau a chyhoeddi straeon yn y wasg, ar y radio, ar y teledu ac ar-lein. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae staff ac aelodau Coeliac UK wedi bod ar BBC Online, BBC Radio Cymru a Radio Wales, S4C ac ITV Cymru Wales.

Cefnogi aelodau drwy ein grwpiau lleol

Mae gennym bedwar grŵp lleol ledled Cymru sydd wedi’u ffurfio o wirfoddolwyr sy’n cyfarfod yn rheolaidd er mwyn rhoi cymorth a chyngor i'w gilydd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o glefyd seliag a Coeliac UK.

Cynnal Sioe Fwyd Heb Glwten Cymru

Yn ystod Sioe Fwyd Heb Glwten fwyaf Cymru, mae arddangoswyr o bob rhan o’r wlad yn gwerthu eu cynhyrchion heb glwten. Mae cyfle hefyd i siarad ag arbenigwyr, gwylio arddangosiadau coginio a mynd i sesiynau deietegol. Y peth gorau amdani yw ei bod yn rhad ac am ddim. Cadwch lygaid ar yr adran digwyddiadau ar y wefan i weld dyddiad ein sioe nesaf.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Y tîm

Tristan Humphreys, Pennaeth Eiriolaeth

 

Tristan Humphreys - Lead in WalesYmunodd Tristan â Celiac UK ym mis Mawrth 2015 ac mae'n cynrychioli'r elusen yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am gyflawni strategaeth yr elusen yma. Mae ganddo gefndir mewn ymgyrchoedd a materion cyhoeddus, ar ôl ymdrin yn flaenorol ag ymgyrchoedd gwleidyddol dros ranbarth Oxfam ar draws rhanbarth Llundain a De-ddwyrain Lloegr ac yn fwy diweddar bu'n bennaeth ymgyrch Cenedl Masnach Deg Cymru yn ei rôl fel Rheolwr Ymgyrchoedd Masnach Deg Cymru. Ym mis Hydref 2012 cafodd ei secondio gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth cyfathrebu i grŵp o gyrff anllywodraethol ym Mbale. Ar hyn o bryd mae'n gadeirydd Bwrdd Cynghori Canolfan Entrepreneuriaeth Affrica.

Yn Gymro balch, cafodd Tristan ei fagu yng nghanolbarth Cymru ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i ddau blentyn. Mae ganddo radd BA mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Manceinion ac mae'n gefnogwr pêl-droed brwd.

Naomi Bennett, Deietegwr ar y Llinell Gymorth

Naomi DietitianMae Naomi’n ddeietegwr cofrestredig ac yn rhan o’r tîm aelodaeth. Mae’n un o’r deietegwyr ymroddedig ar y llinell gymorth sydd wrth law i ateb cwestiynau ynghylch clefyd seliag a’r deiet heb glwten o bob rhan o'r DU.

 

 

CymraegGweld y dudalen hon yn Saesneg/ view page in English